The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion egnïol a gweithgar i gynorthwyo yn yr ysgol.
Rydym yn chwilio am berson sydd â diddordeb mewn gweithio’n agos gyda disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal a pherson sydd yn hapus i gynorthwyo’n gyffredinol o fewn y dosbarthiadau ar draws yr ysgol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu da a sydd hefyd yn medru gweithio’n effeithiol a hwyliog gyda gweddill tîm yr ysgol.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Os am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Eirwyn Griffiths (01239 810081) neu drwy e-bost at griffithse553@aberporth.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ddiwygio’r dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.