The following is an advertisement for a post where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Yn eisiau erbyn Hydref 2022 (neu cyn hynny os fydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gael) – cytundeb llawn amser a pharhaol.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn awyddus i benodi Athro/Athrawes ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egniol a gweithgar i ymgymryd â dyletswyddau addysgu yn y Cyfnod Sylfaen (dosbarth Meithrin)
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd yma.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth Mr Clive Williams. 077925 666 84
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, SCT gynt (Enhanced DBS formerly CRB)
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.