Bydd Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 10. Gellir cael mynediad i’r ddau ddisgrifiad swydd isod.
Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2025.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion.
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw ragorol y mae'n ei gynnig, cliciwch yma.
Rydym yn edrych i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol ar gyfer plant i ymuno a’n Tîm Gydol Oes yn llawn amser. Mae’r tîm yn hwb penderfyniadau integredig sy’n anelu at gefnogi teuluoedd gyda gwybodaeth a chyngor neu ymyrraeth. Mae hwn yn rôl gyffrous o fewn y gwasanaeth sy’n darparu cyfle i ymgymryd ag asesiadau a gweithredu pecynnau gofal i gefnogi bwriad ein sefydliad i alluogi darpariaeth i blant/deuluoedd o wasanaethau addas yn dilyn Asesiad Plentyn a Theulu.
Ynghylch y Rôl:
Mae'r rôl yn un sy’n llunio a gweithredu Cynlluniau Gofal a Chymorth o dan Ran 4 a 6 o SSWBA 2014 a deddfwriaethau gofal cymdeithasol allweddol eraill wrth asesu, cefnogi a diogelu plant ac oedolion sydd angen gofal a chymorth neu sydd mewn perygl o niwed trwy gynorthwyo unigolion a'u teuluoedd neu rwydweithiau i ddatrys anawsterau mawr, gwella eu sgiliau ymdopi a sefydlu eu hannibyniaeth a'u gwydnwch. Tîm Porth Gofal yw calon y ddarpariaeth gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod teuluoedd yn cael yr ymyrraeth sydd yn y sefyllfa orau i ddiwallu eu hanghenion neu lle arall i'w harwain at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.
Beth mae’r Tîm Porth Gofal yn ei ddarparu:
Ein hymgeisydd delfrydol:
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gymhwyso)
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Amanda Boyle (01545 574112) Amanda.Boyle2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.