The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i gefnogi dysgwyr y cyfnod Sylfaen, a dysgwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ystod absenoldeb cyfnod mamolaeth ar safle Ysgol Penrhyncoch. Cyfle i ymuno a thîm o staff brwdfrydig a gweithgar sy’n gweithio mewn modd arloesol ar draws Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch.
Swydd dros dro yw hon ar gyfer cyfnod mamolaeth.
Mae’n hanfodol i feddu ar gymwysterau yn ymwneud â datblygiad plant. Byddai profiad blaenorol o weithio yn y Cyfnod Sylfaen yn fanteisiol iawn ynghyd â dealltwriaeth o raglenni cefnogi disgyblion eraill megis TRANDEP, ‘Cyfri Ceredigion’, ‘Y Daith Ddarllen’ a ‘Dyfal Donc’ yn ddymunol iawn. Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Rydym yn agored i ystyried cyfuno’r swydd hon gyda swyddi eraill a hysbysebir ar safle’r Ysgol pe bai’r ymgeisydd yn dymuno.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth Miss Catryn Lawrence ar prif@penllwyn.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.