The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig, blaengar ac ysbrydoledig am swydd ddysgu yng Nghyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6) yn Ysgol Gynradd Felinfach. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gallu creu cyfleoedd dysgu cyffrous a diddorol ar draws yr ystod gallu ac i gyfrannu i'r ethos tîm cryf sydd yn nodwedd o'r ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i godi safonau. Mi fydd y gallu i fod yn hyblyg ac i weithio’n effeithiol fel rhan o dȋm ynghyd â’r parodrwydd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd yma.
Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu ậ’r Pennaeth, Mrs Non McEvoy, drwy E-bost: prif@felinfach.ceredigion.sch.uk
Dyddiad cau: Mai 25ain, 2022
Dyddiad Cyfweld: Mehefin 8fed, 2022
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.