The following is an advert for a Deputy Headteacher where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.
Hysbyseb am Ddirprwy Bennaeth i Ysgol Gynradd Gymunedol T Llew Jones, ac mae'n ofynnol i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer y swydd.
Yn eisiau o Fedi y 1af 2026 – Swydd Dros Dro yn dilyn secondiad y Dirprwy presennol.
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol T Llew Jones yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth (dros dro) ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i'r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli'r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yn llawn amser.
Fe fydd yr unigolyn yn :
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
Mae’r swydd hon yn rhoi cyfle euraidd i unigolyn i weithio mewn Ysgol Ardal lwyddiannus mewn ardal godidog o Orllewin Cymru. Gan rhoi cyfle a phrofiad i unigolyn brwdfrydig syn awyddus i ddatblygu ei sgiliau arweiniol dros cyfnod secondiad y Dirprwy presennol.
Cyfweliadau: 16/6/2026
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Rhian Lloyd i drafod ymhellach ar y rhif ffôn canlynol 01239 654553.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.