Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.
The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Rydym yn awyddus i benodi ymarferydd effeithiol gyda’r ymrwymiad a’r weledigaeth i gyfrannu fel athro/awes yn y maes allweddol hwn yn Ysgol Bro Pedr. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ffynnu a datblygu fel aelod o dîm yr adran Mathemateg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i addysgu Mathemateg i’r amrediad oedran a gallu llawn yn Ysgol Bro Pedr. Rydym yn chwilio am berson egnïol a blaengar i sicrhau fod y maes hwn yn parhau i ffynnu yn Ysgol Bro Pedr.
Dyddiad cyfweliadau: 23ain o Fehefin 2025.
Pecyn Gwybodaeth
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.