The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Syr John Rhys benodi Athro/Athrawes CA2 llawn amser. Croesawn geisiadau gan unigolion brwdfrydig ac egnïol. Mi fydd y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol â’r parodrwydd i gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol. Mae Ysgol Syr John Rhys yn un sy’n cydweithio mewn partneriaeth ffederal gyda dwy ysgol leol arall. Dyma gyfle gwych i unigolyn talentog a phroffesiynol ddatblygu ei sgiliau addysgu ac ymuno a thîm o staff gweithgar.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os am drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgolion Syr John Rhys, Mynach a Pontrhydfendigaid, Mrs Joyce George ar 07813 274539 / 01970 890622 neu drwy e-bost ar georgea59@hwbcymru.net
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.