The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon arloesol, brwdfrydig, egnïol ac ymroddgar i ymgeisio am swydd ddysgu yng Nghyfnod Allweddol 2 yn yr ysgol uchod. Eich nod fydd i sicrhau addysg o’r safon uchaf i bob disgybl, a pharhau i godi a chynnal safonau cyrhaeddiad. Mi fydd y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol a chymunedol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd yma.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, mae pob croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Caryl Evans - 01545 580 107 / EVANSC650@hwbcymru.net
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.