The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Rydym am benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 (dros gyfnod mamolaeth o 1.5 tymor) yn Ysgol Dyffryn Aeron i gefnogi disgybl ag ADY yn Ysgol Dyffryn Aeron.
Dyma gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o’r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o’r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru.
Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn ran annatod o lunio dyfodol Ysgol Dyffryn Aeron, a llywio ei llwyddiant.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Disgrifiad Swydd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas ar 01545 908908 neu Thomasn60@hwbcymru.net
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.