The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Rhydypennau benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i gynorthwyo gyda disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a hyblyg fydd yn llwyr ymrwymedig i bob agwedd o fywyd yr ysgol. Yn ddelfrydol, mi fyddwch a phrofiad diweddar o weithio mewn ysgol gynradd, a gyda gwybodaeth sylfaenol BSL (British Sign Language) a / neu Makaton. Byddai profiad blaenorol o gynnal rhaglenni ymyrraeth megis SATPIN / TRANDEP, Dyfal Donc / Catch-up a Chyfri Ceredigion hefyd yn fanteisiol.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mr Peter Leggett ar 01970 828608 neu p.leggett1@rhydypennau.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.