Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.
The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Yn eisiau erbyn Medi 2025
Rydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i’n cynorthwyo, i gefnogi a chyflwyno dysgu, ar gytundeb dros dro am flwyddyn yn Ysgol Penllwyn. Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Lleolir Ysgol Penllwyn ym mhentref Capel Bangor tu allan i Aberystwyth yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.
Mae Ysgol Penllwyn yn ysgol gynradd fach weledig, hynod lwyddiannus, gyda 34 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw’r plant atom o bentrefi gweledig cyfagos.
Mae ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch wedi gweithio mewn partneriaeth o dan arweiniad yr un Pennaeth ers 2011, ac wedi ffederaleiddio o dan un Corff Llywodraethol ers 2019.
‘Gyda’n gilydd gallwn lwyddo’ yw arwyddair ein partneriaeth. Anelwn at barchu hunaniaeth a natur unigryw'r naill ysgol yn ei chymuned, tra’n elwa ar yr hyn y mae ein partneriaeth yn cynnig i’n disgyblion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Am sgwrs bellach neu i dderbyn mwy o fanylion am y swydd mae croeso i chi gysylltu â’r Dirprwy Bennaeth trwy e-bostio coryr1@hwbcymru.net neu ffonio 01970 88-227
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.