The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae Penweddig yn ysgol lwyddiannus, sydd â hanes o welliant a datblygiad. Mae nifer sylweddol o’n disgyblion yn sicrhau canlyniadau TGAU a Lefel A sydd yn uwch nag ysgolion cyffelyb. Mae ymddygiad ein disgyblion yn dda iawn, ac mae ganddynt ymagwedd bositif ac ysgogol at ddysgu. Cyniga’r ysgol gwricwlwm eang a chytbwys gydag ystod gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol. Mae Penweddig yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol.
Mae’r ysgol yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol dda i ymgymryd â’r swydd uchod yn yr Adran Gynnal.
Gweithio o dan gyfarwyddyd uniongyrchol staff addysgu/uwch aelodau o’r staff, fel rheol yn yr ystafell ddosbarth gyda’r athro neu’r athrawes, cefnogi mynediad at ddysgu i’r disgyblion, a darparu cefnogaeth gyffredinol i’r athro neu’r athrawes gyda rheolaeth y disgyblion a’r ystafell ddosbarth.
Pecyn Gwybodaeth
Hyderaf bydd y pecyn gwybodaeth hwn yn rhoi syniad da i chi o gyd-destun y swydd. Gellir cael mwy o wybodaeth am fywyd bob dydd yr ysgol drwy gysylltu â’r ysgol neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae croeso i chi wneud hynny drwy naill ai ffonio’r ysgol (01970 639499), neu drwy e-bost at ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.