The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Mynach benodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Dau i gynorthwyo ar draws yr ysgol. Bydd angen gweithio gyda disgyblion ag anghenion addysg arbennig. Mi fydd y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol â’r parodrwydd i gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol.
Croeso i unrhyw ymgeisydd gysylltu a’r Pennaeth, Mrs Joyce George am fwy o wybodaeth (01970 890234 neu 07813 274539).
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.