Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.
The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Yn sgîl penodiad y Dirprwy Bennaeth presennol i rôl y Pennaeth, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar gyrion tref glan y môr Aberystwyth yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.
Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ysgol gynradd fawr, hynod lwyddiannus, gyda 365 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw’r plant atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae holl waith a bywyd yr ysgol yn seiliedig ar dri nod cytûn ar gyfer ei disgyblion a’i staff, sef hybu balchder yn eu Cymreictod, parchu ei gilydd a gwneud eu gorau glas. Mae’r nodau hyn yn treiddio’n gryf iawn trwy holl weithgareddau’r ysgol. Mae llais y disgybl yn bwysig ac yn cael ei barchu drwy’r ysgol. Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am sgwrs bellach neu i dderbyn mwy o fanylion am y swydd mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Gareth James trwy e-bostio JamesG19@hwbcymru.net neu ffonio 01970 617613
Dyddiad Cau: Dydd Gwener, yr 2ail o Fai 2025 (hanner nos)
Cyfweliadau: Dydd Mawrth, 13eg o Fai 2025 (gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn)
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth Yr Ysgol Gymraeg lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.