The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Bro Siôn Cwilt benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel Dau (Llawn-amser) i gefnogi disgyblion yn nosbarth y Dysgu Sylfaen.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a hyblyg fydd yn llwyr ymrwymedig i bob agwedd o fywyd yr ysgol. Yn ddelfrydol, mi fyddwch a phrofiad diweddar o weithio mewn ysgol gynradd.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy’r Gymraeg a’r Saesneg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Os am ragor o wybodaeth neu am drefnu ymweliad â’r ysgol, mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mrs Caryl Evans ar 01545 580 107.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.