The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Dyddiad dechrau: 13eg o Ebrill, 2026
Yn sgil penodiad ein Pennaeth presennol i ysgol uwchradd o fewn yr ardal, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi olynydd ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymunedol Penparc ar gyrion tref Aberteifi yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.
Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd gofalgar, cynhwysol, llawn parch o’r radd flaenaf. Dymuna’r Llywodraethwyr benodi Pennaeth newydd i arwain yr ysgol yn y cyfnod nesaf o’i datblygiad.
Mae rhyw 114 o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae tîm effeithiol o athrawon a staff cefnogi yn cynorthwyo pob disgybl i ddysgu a datblygu i’w llawn botensial. Mae’r Llywodraethwyr am benodi Pennaeth a all adeiladu ar y cryfderau presennol a bod yn agored i syniadau newydd a sicrhau bod yr ysgol yn paratoi ei disgyblion ar gyfer byd sy’n newid o’u cwmpas.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy'n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth ragorol ac a fydd yn:
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
Disgrifiad Swydd
Manyleb Person
Prospectws Ysgol Penparc
Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â’r ysgol, os ydynt yn dymuno, cyn cyflwyno cais. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Ymgynghorydd Cefnogi’r ysgol, Mr Dafydd Iolo Davies: dafydd.iolodavies@ceredigion.gov.uk (07812920421).
Dyddiad Cau: Dydd Sul yr 16eg o Dachwedd, 2025 (hanner nos)
Cyfweliadau: Dydd Gwener 12fed o Ragfyr (gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn) a gynhelir yn Ysgol Gymunedol Penparc.
Mae’r hysbyseb hon ar gyfer swydd Pennaeth yn Ysgol Penparc, yn llawn amser lle mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y cymhwyster CPCP neu wedi derbyn lle ar y Rhaglen CPCP.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.