The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes i gyflenwi dros gyfnod secondiad i addysgu dosbarthiadau cam cynnydd 2/3.
Dyddiad dechrau: Medi 2026.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd a dealltwriaeth a phrofiad addas o addysgu disgyblion Cam Cynnydd 2/3.
Yn Ysgol Llechryd cewch gyfle i weithio gyda phlant ymroddgar, cymuned gefnogol a thîm o staff cydwybodol sydd yn rhoi blaenoriaeth clir ar les disgyblion a chynnal safonau uchel.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Lee Burrows ar 01239 682474 neu burrowsj8@hwbcymru.net
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd hon.
Disgrifiad Swydd
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio