The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Rydym am benodi 2 Gynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 yn ‘Calon Aeron’, Canolfan Arbenigol ADY, i’n cynorthwyo, i gefnogi a chyflwyno dysgu, llawn amser yn Ysgol Dyffryn Aeron. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Dyma gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o’r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o’r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru. Mae Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu - Cefnogi a Chyflwyno Dysgu, Lefel 2.
Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn ran annatod o lunio dyfodol Ysgol Dyffryn Aeron, a llywio ei llwyddiant. Gweler y ‘Disgrifiad Swydd’ am fwy o wybodaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas ar 01570470650 neu Thomasn60@hwbcymru.net
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.