The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Rydym yn edrych am athro /athrawes ragorol i addysgu ym mlwyddyn 4.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd a dealltwriaeth a phrofiad addas. Yn ogystal, mae’r parodrwydd i gyfrannu tuag at weithgareddau allgyrsiol yn ddymunol.
Yn Ysgol Plascrug cewch gyfle i weithio gyda phlant ymroddgar, cymuned gefnogol a chriw o staff cydwybodol sydd yn rhoi blaenoriaeth clir ar les disgyblion a chynnal safonau uchel.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth Mr Berian Lewis ar 01970 612286.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd hon.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.