The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 2 dros gyfnod mamolaeth i’n cynorthwyo ni i gefnogi a chyflwyno dysgu ar gytundeb dros dro yn Ysgol Gymunedol Plascrug. Mi fyddwch yn gweithio fel rhan o dim staffio craidd yr ysgol.
Dyma nod yr ysgol:
‘Yma ym Mhlascrug mi fyddwn yn sicrhau y bydd pob plentyn yn ffynnu yn ein hysgol, sydd yn rhoi plant yn ganolog i'n cymuned. Credwn fod gan bob plentyn y gallu i wneud cynnydd rhagorol wrth ddatblygu sgiliau gydol oes mewn amgylchedd dwy ieithog sy'n ddiogel, ofalgar ac ysbrydoledig. Mi fyddwn yn rhoi y siawns gorau i lwyddo i bob plentyn gan ddathlu pob llwyddiant gyda'n gilydd.’
O hoffech fod yn ran o dim ymroddgar i’n helpu i wireddi’r nod yma ac yn meddu a’r sgiliau isod fydd yn eich galluogi i ymgymryd a’r swydd yn llwyddiannus yna fe hoffem i chi wneud cais am y swydd.
Fe fydd gofyn i chi:
Rydym am benodi unigolyn sydd a:
Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi pob disgybl o fewn y dosbarth.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.