Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio Swyddog Cymorth Prynu i Dalu (P2P) brwdfrydig ac ymrwymedig i ymuno â Thîm Prynu i Dalu prysur sy’n delio gydag archebion a thaliadau ar ran ystod eang a wasanaethau’r Cyngor.
Byddwch yn rhan o sicrhau bod prosesau cywir yn cael eu dilyn a cydymffurfiaeth drwy gefnogi taith y Cyflenwr o Archeb Prynu gychwynnol i Daliadau am eu nwyddau, gwaith neu wasanaethau.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad ymarferol o brynu ac/neu brosesu biliau gan ddefnyddio systemau electronig.
Gwybodaeth am y rôl
Mae’r rôl hon yn gofyn am unigolyn sy’n gwerthfawrogi’n gryf y pwysigrwydd o sylw i fanylion ac amserau cau ond sydd yn berson gyda sgiliau pobl da sy'n gallu adeiladu a chynnal cysylltiadau â staff, cwsmeriaid a chyflenwyr i ymateb i heriau dydd-i-ddydd gyda phersbectif galluogi ac agwedd bositif.
Mae’r Prif Dasgau a Chyfrifoldebau yn cynnwys:
Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos hyblygrwydd ac ymrwymiad er mwyn bodloni amserau cau ac amserlenni. Mae dibynadwyedd a’r gallu i gyflawni tasgau sy’n ymwneud â thrafodion yn gywir gan ddefnyddio systemau electronig yn hanfodol.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch âJeanette Jones ar Jeanette.Jones2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.