Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Rhydypennau am benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i gynorthwyo yn yr ysgol hapus hon. Dymunwn benodi berson brwdfrydig a hyblyg fydd yn llwyr ymrwymedig i bob agwedd o fywyd yr ysgol. Rydym yn chwilio am ymarferydd sydd gyda phrofiad eang a diweddar o weithio mewn ysgol gynradd Cyfrwng Cymraeg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyderus wrth fodeli’r Gymraeg gyda chywirdeb i’r disgyblion. Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y sgiliau i allu cyfathrebu a chydweithio’n effeithiol fel rhan o dîm gweithgar.
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Cynorthwyydd Addysgu ble mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mr Peter Leggett ar 01970 828608 neu p.leggett1@rhydypennau.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.