Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i gynorthwyo’r Rheolwr i arwain Tîm Rheoli Adeiladau’r Cyngor ar sail contract rhyddhad oriau sero, gyda'r oriau i'w cytuno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.
Gan ffurfio rhan o'r Gwasanaeth Cynllunio ehangach, sy'n delio â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Rheoleiddio Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig arall, byddai'r deiliad swydd yn chwarae rhan allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ledled y sir.
O ddydd i ddydd, byddwch yn:
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn:
Mae'r swydd yn gofyn am rywfaint o rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Sylwch y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd ar ôl ei benodi.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch â Jeremy Holmes, Prif Swyddog Rheoli Adeiladu neu Geraint Williams, Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Adeiladu, ar Ffôn: 01545 572 482
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.