Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag o fewn ein Tîm Gwasanaethau Priffyrdd ar gyfer Swyddog Seilwaith Gwyrdd / Arolygu Coed. Mae’r swydd yn gontract parhaol wedi’i lleoli yn Depo Penrhos, Llandysul.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am oruchwylio’r gweithgaredd torri gwair blynyddol ar Ffyrdd Sirol a Thraffyrdd, hefyd cyflawni gweithgarwch gorfodi mewn perthynas â llystyfiant sy’n gorhongian neu’n ymledi dros Ffyrdd Sirol yn unol ag adran 154 o Ddeddf Priffyrdd (1980). Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud o bell ar draws rhwydwaith y Priffyrdd ledled y sir. Mae'r rôl yn hybrid sy'n golygu y gall deiliad y swydd hefyd weithio o gartref neu o'r swyddfa yn ôl yr angen. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gerbyd gwaith.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym yn bwriadu recriwtio unigolyn sydd:
Mae’r swydd yn gofyn am lefel gyfyngedig o ruglder yn y Gymraeg.
Am wybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a’r Manyleb Person.
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch â John Davies ar John.Davies2@ceredigion.gov.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.