Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae cyfle llawn amser wedi codi i ymuno â'r Tîm Cymorth Gwasanaeth Corfforaethol. Mae'r tîm yn darparu cymorth gweinyddol i bob agwedd ar yr awdurdod, ond bydd y rôl hon fel Gweinyddydd Cymorth i’r Gwasanaethau, yn bennaf yn darparu cymorth gweinyddol i dimau Diogelu'r Cyhoedd a Thrwyddedu'r Cyngor. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi darparu gwasanaethau effeithiol ar draws swyddogaeth a rhwymedigaeth diogelu'r cyhoedd y Cyngor, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i breswylwyr, busnesau a sefydliadau partner.
Ynglŷn â'r rôl:
Bydd disgwyl i'r Gweinyddydd Cymorth i’r Gwasanaethau ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau sy'n gysylltiedig ag amgylchedd swyddfa prysur sy'n cynnwys:
Ynglŷn â'r Ymgeisydd:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol, gydag awydd gwirioneddol i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a Thrwyddedu'r Cyngor yn effeithiol. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fodloni'r meini prawf canlynol:
Cefnogir dysgu Cymraeg o fewn y Cyngor, gyda chyfleoedd hyfforddi ar gael i gefnogi i gyrraedd y lefelau Cymraeg penodedig.
Ein cynnig:
Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gweithio Hybrid: Yn amodol ar amodau penodol yn cael eu bodloni, gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa er y bydd anghenion y rôl yn gofyn am bresenoldeb rheolaidd yn y swyddfa.
Amser hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal: Wythnos yn dechrau: 17/08/26.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Keith Dale keith.dale@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.