Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn llawn cymhelliant a brwdfrydedd i ymuno â Thîm Gorfodi Cynllunio newydd y Cyngor ar sail barhaol, llawn amser.
Gan ffurfio rhan o'r Gwasanaeth Rheoli Datblygu, sy'n delio â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Cynllunio Tref a Sir a deddfwriaeth gysylltiedig arall, byddai'r deiliad swydd yn chwarae rôl allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ar draws y sir.
Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno â'r Gwasanaeth gan ein bod wrthi'n tyfu'r tîm gorfodi cynllunio fel y gallwn ddelio'n well â thorri rheolaeth gynllunio ledled y Sir, felly beth am ymuno â ni fel rhan o'r bennod newydd hon?
Mae’r cyfrifoldebau o ddydd i ddydd yn cynnwys:
a;
Efallai y bydd cyfle hefyd i'r deiliad swydd ymdrin ag ymholiadau cyn ymgeisio a cheisiadau cynllunio sy'n deillio o achosion gorfodi, er y byddai'r rhan fwyaf o lwyth achosion deiliad y swydd yn cynnwys ymchwiliadau gorfodi cynllunio.
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn:
Mae'r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Sylwch y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd ar ôl ei benodi.
Mae Ceredigion yn cael ei chydnabod fel un o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio, gyda diwylliant bywiog, ysgolion ardderchog ac arfordiroedd hardd a chefn gwlad godidog. Dysgwch fwy am yr hyn sydd gan Gyngor Sir Ceredigion i'w gynnig yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Recriwtio
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) dros y ffôn: (01545) 572131.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.