Rydym am recriwtio Cyfreithiwr - Dadleuol i ymuno â'n gwasanaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu.
Ynglŷn â'r rôl
Cynorthwyo Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor i ddarparu Gwasanaeth Cyfreithiol cynhwysfawr ac effeithiol i Brif Swyddogion, Aelodau a meysydd gwasanaeth cleientiaid y Cyngor mewn perthynas â'i swyddogaethau ac i ymgymryd â gwaith sy'n canolbwyntio ar Orfodaeth Cynllunio ac Ymholiadau Cynllunio.
Ynglŷn â'r ymgeisydd
Cyfreithiwr cymwysedig neu Weithredwr Cyfreithiol gyda thystysgrif gyfredol cyfreithiwr neu gyfwerth.
Profiad ymarferol mewn materion dadleuol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Oherwydd gofynion y rôl, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg adeg ei benodi. Gweler manyleb y person am fanylion pellach.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn rhoi cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, buddion teuluol gwell, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles gweithwyr.
Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ein buddion eang i weithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar 21.11.2025. Er mwyn tarfu llai ar ymgeiswyr, cynhelir cyfweliadau o bell.
Gwybodaeth Ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Patricia Armstrong ar 01545 572091 neu e-bostiwch patricia.armstrong@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.