Ydych chi’n arweinydd uwch profiadol â chefndir cryf mewn llywodraeth leol, sicrwydd corfforaethol neu wasanaethau rheoleiddio?
Rydym yn chwilio am arweinydd uwch i arwain ein gwasanaeth Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd, portffolio corfforaethol craidd sydd wrth galon perfformiad, llywodraethu, gweithio mewn partneriaeth a diogelu’r cyhoedd yng Nghyngor Sir Ceredigion.
Mae’r swydd yn cyfuno arweinyddiaeth strategol ym maes perfformiad a pholisi corfforaethol â chyfrifoldeb strategol a gweithredol dros swyddogaethau diogelu’r cyhoedd, o fewn model arweinyddiaeth ar y cyd sy’n seiliedig ar gyfrifoldeb a rennir a safonau uchel.
Mae’r portffolio’n cynnwys:
Perfformiad a Phartneriaethau
Diogelu’r Cyhoedd
Yr hyn y byddwch yn ei wneud
Yr hyn y byddwch yn ei gynnig
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi
Gwybodaeth ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch â Elen James ar elen.james@ceredigion.gov.uk
Nodwch: mae’r cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog ar y gweill. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â’r dyfarniad cyflog a gytunir yn genedlaethol.
Rydym yn cadw’r hawl i ymestyn y dyddiad cau.