Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 llawn amser a fydd yn gweithio gyda myfyrwyr sydd yn derbyn cefnogaeth gan yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Ysgol Penglais. Bydd eich gwaith yn cynnwys cefnogi disgyblion sydd â sbectrwm eang o anghenion ADY trwy gynnal amrywiaeth o ymyriadau i grwpiau bach o ddisgyblion, yn ogystal â chefnogi disgyblion yn yr ystafell ddosbarth i'w galluogi i gael mynediad effeithiol i'w cwricwlwm.
Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur. Bydd gofyn i chi ddefnyddio eich menter eich hun i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad i'r cwricwlwm a'u bod yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu. Mae hon yn rôl a fyddai'n addas i unigolyn uchelgeisiol sydd â diddordeb gwirioneddol mewn cefnogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i’w gynnig:
Pecyn Gwybodaeth
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i’r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.