Mae Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd Aberteifi yn edrych i benodi Dirprwy Bennaeth sy'n arweinydd eithriadol, sy'n meddu ar weledigaeth glir, sydd yn awyddus i ymuno â thîm arweinyddol Ysgol Uwchradd Aberteifi i sicrhau addysg, cefnogaeth a gofal o’r radd flaenaf i bob disgybl yma yn yr ysgol; unigolyn i helpu sicrhau cynnydd pob unigolyn, ac i hyrwyddo a chefnogi pob aelod o staff i sicrhau’r awyrgylch weithio orau posibl i bob un.
Gweler y pecyn atodedig am yr holl fanylion a gwbodaeth angenrheidiol.
Pecyn Gwybodaeth
Atodwch lythyr cais a chopi o’ch CV os gwelwch yn dda.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.