Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Sylwch fod y cyflog a ddangosir yn pro rata sy'n golygu'r oriau cyfwerth ag amser llawn - byddech chi'n ennill £12.65 yr awr.
Rydym am recriwtio Hebryngwr Croesfannau Ysgol i ymuno â’r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.
Pwrpas y swydd yw sicrhau diogelwch plant wrth iddyn nhw groesi’r ffordd mewn man dynodedig ar amserau penodedig, heb amharu ar les defnyddwyr eraill y ffordd.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym am recriwtio unigolyn sy’n ddibynadwy a hyderus, un sy’n dda am gadw amser a chyfathrebu, all addasu’n gyflym ac mewn modd priodol i sefyllfaoedd sy’n newid, sy’n hyderus yn gweithio ar y briffordd.
Rhywun sydd â’r gallu i oruchwylio plant ac sy’n ofalgar ohonynt, y gallu i weithio heb oruchwyliaeth, a rhywun all gyfathrebu mewn ffordd glir a serchog bob amser.
Yn ogystal â’r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr ichi gan gynnwys cynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn ichi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Kayleigh Tonkins – Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd – 01545 572053.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.