Am y rôl
Rydym yn chwilio am ddau berson egniol a brwdfrydig i redeg clwb ar ôl ysgol. I gychwyn rydym yn treialu dau ddiwrnod – Dydd Llun a Dydd Mercher 3.30 – 5.15 o’r gloch gyda’r gobaith y bydd galw am fwy o ddiwrnodau. Rydym yn gobeithio y bydd gweithgareddau hwyliog amrywiol a drefnir gan ein arweinwyr clwb a chyfle i ymlacio ar ôl diwrnod ysgol o fewn y clwb yn apelio i’r plant ac y bydd nifer yn manteiso ar y cyfle i fynychu.
Mi fydd y tâl yn unol â thâl lefel 2 ar y raddfa dâl cynorthwyyr dosbarth ac mi fydd y cytundeb yn un tymor yn unig ac yn un sero awr i gychwyn.
Prif Gyfrifoldebau
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
Os ydych am wybodaeth pellach croeso i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Miss Anwen James trwy ebost prif@myfenydd.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.