Dyma gyfle gwych, yn ystod y tymor yn unig, i ymuno gyda Thîm Rhianta a Chefnogaeth I Deuluoedd yng Ngheredigion a gwneud cyfraniad pwysig at fywyd teuluoedd a phlant.
Teitl y swydd yw Swyddog Cymorth a Hyfforddiant Llesiant Cymdeithasol ac Emosiynol.
Byddwch ynglwm ag ardaloedd Dechrau’n Deg Ceredigion ac yn cydweithio’n agos gyda staff sy’n darparu cyngor a chefnogaeth I leoliadau Gofal Plant Dechrau’n Deg a’r tîm ehangach – gan gynnwys staff o asiantaethau eraill – statudol a gwirfoddol.
Eich nôd fydd i gefnogi plant o oed cyn-ysgol gael cyfle i ddatblygu drwy fynychu gofal plant o safon uchel a datblygu eu sgiliau iaith.
Bydd disgwyl i chi gynnig cyngor ac arweiniad i feithrinfeydd a gwarchodwyr er mwyn gwella safon eu darpariaeth ac ymarfer.
Byddwch hefyd yn monitro safon ac yn cynnig hyfforddiant i leoliadau gofal plant gan sicrhau gwell deilliannau i blant a'u cefnogi o un lleoliad i’r llall.
Oherwydd gofynion y rôl mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach. Mae gwybodaeth am ddysgu neu wella’r Gymraeg i’w chael yma.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n ceisio secondiad. Argymhellir gofyn am ganiatâd rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais i sicrhau y gallwch ddychwelyd i'ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch â Gail MacDonald / gail.macdonald@ceredigion.gov.uk neu Mari Jefferis/ Mari.jefferis@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.