Rydym yn edrych i recriwtio Rheolwr Prosiectau Priffyrdd i ymuno â'n gwasanaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol.
Ynglŷn â'r rôl
O dan gyfarwyddyd cyffredinol y Rheolwr Gwasanaeth – Cynnal a Chadw'r Rhwydwaith ac Asedau, ac ar y cyd â’r Rheolwyr Gweithredol, bydd gofyn cynllunio, cydlynu a rheoli'r gwaith o gyflawni Prosiectau Priffyrdd, gan gynnwys:
Ynglŷn yr ymgeisydd
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod â:
Rydym yn chwilio am unigolion â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg gan y rhoddir cefnogaeth lwyr yn ystod oriau gwaith i ymgeiswyr llwyddiannus heb y sgiliau gofynnol yn y Gymraeg i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl iddynt gael eu penodi.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Manylion Ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Noder bod y swydd hon yn destun ailstrwythuro gwasanaeth. Bydd y math o gontract yn aros yr un fath ond gall rhai dyletswyddau a llinellau adrodd fod yn destun rhywfaint o newid.
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon ffoniwch Caroline Wride ar 01970 633810 neu ebost caroline.wride@ceredigion.gov.uk