Mae Ysgol Henry Richard yn ceisio penodi Glanhawr Ysgol wrth gefn dibynadwy, hyblyg a gweithgar i ddarparu cyflenwi ar gyfer absenoldebau staff a chyfnodau o alw cynyddol am lanhau.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n chwilio am drefniadau gweithio hyblyg a all fod ar gael ar fyr rybudd pan fo angen. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i fod yn amgylchedd glân, diogel a chroesawgar i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Henry Richard, Mr Dorian Pugh ar 01974 298 231 neu pughd22@hwbcymru.net
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.