Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2027.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.
Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch cefnogi pobl y mae defnyddio sylweddau yn effeithio arnynt a gwneud gwahaniaeth parhaol yn eu bywydau? Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am Uwch Ymarferydd brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â’n Tîm Sylweddau Gofal Cymdeithasol dynamig a blaengar.
Am y rôl
Fel Uwch Ymarferydd Gradd 11 o fewn y Tîm Sylweddau, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi Rheolwr y Tîm, cydlynu swyddogaethau dyddiol y gwasanaeth, hyrwyddo arfer o ansawdd uchel, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y gwasanaeth.
Cyfrifoldebau allweddol
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol, creadigol a brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i unigolion a’u teuluoedd.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth dda o arfer gwrth-wahaniaethol, egwyddorion lleihau niwed a dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar gryfderau. Bydd gennych hefyd wybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a strategaethau cenedlaethol perthnasol ar gamddefnyddio sylweddau, ynghyd â sgiliau cyfathrebu, asesu, rheoli risg a gweithio mewn tîm cryf.
Pam ymuno â ni?
Mae ymuno â Thîm Sylweddau Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig cyfle i fod yn rhan o wasanaeth cefnogol ac arloesol sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, cydweithio a datblygiad proffesiynol. Byddwch yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ac asiantaethau partner ymroddedig.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle hwn a’r hyn sydd gan Gyngor Sir Ceredigion i’w gynnig, cysylltwch â: Lara Robson, Rheolwr Tîm 07794 081362 neu fel arall, anfonwch e-bost at: substancemisuseteam@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.