Rydym am recriwtio Cynorthwyydd Cyfrifeg i ymuno â'n Tîm Cyllid a Chaffael ar gytundeb parhaol, llawn amser.
O ddydd i ddydd, byddwch yn gyfrifol am amrywiaeth o dasgau sy'n gysylltiedig â chyfrifyddu/cyllid, gyda chyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cyfweliadau
Er mwyn lleihau'r tarfu ar ymgeiswyr, bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithiol.
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch â Natalie Jones ar 01970 633135 neu natalie.jones2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.