Mae Gwasanaeth Maethu Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio datganiadau o ddiddordeb ar gyfer Cadeirydd Panel Maethu Annibynnol. Yn arbennig, croesawn ymgeiswyr sydd wedi cael eu mabwysiadu a/neu eu maethu eu hunain yn ogystal ag ymgeiswyr sydd â phrofiad proffesiynol neu bersonol o ofal cymdeithasol neu sydd â chefndir ym maes gofal cymdeithasol, meddygol a/neu addysgol.
Ni fydd ymgeiswyr sy'n weithwyr Cyngor Ceredigion yn cael eu hystyried.
Lleoliad: Mae Paneli Maethu yn cael eu cynnal yn rhithwir ar hyn o bryd, fodd bynnag, bydd angen mynychu rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn un o swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion.
Oriau: Un panel y mis 9.30am – 3.30pm ar ddydd Iau (3ydd dydd Iau bob mis)
Mae'r Cadeirydd yn "berson penodedig" sy'n arfer ei swyddogaethau'n annibynnol. Felly, nid oes ganddo/ganddi statws gweithiwr ond mae'n ofynnol iddo/iddo fod â statws gweithiwr er mwyn gallu prosesu taliadau a'r TWE/CYG angenrheidiol gan Gyngor Sir Ceredigion, sy'n atebol i weithredu'r system hon ar enillion trethadwy yn unol â Rheolau Gweithio Oddi ar y Gyflogres CThEF (IR35). Bydd yn ofynnol i aelodau'r panel ddarparu eu manylion banc er mwyn i ffioedd gael eu talu.
Gall aelodau annibynnol o'r panel sydd â statws busnes hunangyflogedig ymgymryd â'r rôl hon, ond byddant hefyd yn ddarostyngedig i Reolau Gweithio Oddi ar y Gyflogres CThEF (IR35).
Cyfrifoldeb y Cadeirydd penodedig yw delio ag unrhyw ymholiadau neu newidiadau mewn statws TWE trwy CThEF.
Rôl Cadeirydd y Panel Maethu
Bydd rôl Cadeirydd y Panel yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd y panel, sicrhau bod pob eitem o fusnes yn cael ei chynnwys a bod y panel yn gweithredu yn unol â Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018, a pholisïau a gweithdrefnau perthnasol Cyngor Sir Ceredigion.
Byddwch yn hwyluso cyfranogiad gweithredol holl aelodau'r panel i gyfrannu at ystyriaeth y panel o achosion a gwneud argymhellion clir gyda thystiolaeth dda ynghyd â'r rhesymau drostynt.
Byddwch yn sicrhau bod cofnodion clir a chywir o gyfarfodydd yn cael eu cynhyrchu a'u cymeradwyo cyn eu dosbarthu.
Bydd gennych ddealltwriaeth o'r broses ac arferion maethu a'r fframwaith deddfwriaethol, profiad o leoli plant mewn gofal a phrofiad o gadeirio cyfarfodydd cymhleth. Os hoffech wneud gwahaniaeth i fywydau plant sy'n derbyn gofal, ystyriwch wneud cais.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person ar gyfer Cadeirydd y Panel
Cymryd rhan yn y canlynol:
Manyleb Person
Profiad a chymwysterau
Gwybodaeth
Galluoedd
Agwedd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael
Anfonwch eich CV ynghyd ag enw a manylion canolwr o'ch cyflogaeth/asiantaeth ddiweddaraf at:
Sarah Codner
Rheolwr Tîm: Gwasanaeth Maethu
Porth Cynnal
Ebost: sarah.codner@ceredigion.gov.uk
Bydd datgeliad manylach yn cael ei gynnal gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y rôl hon.
Os yw eich CV yn dangos bod gennych chi'r profiad a'r sgiliau i ymgymryd â'r rôl hon cewch eich gwahodd i ddod am gyfweliad.