Rydym yn chwilio am Gydlynydd Dynodedig (DESCo) creadigol a brwdfrydig, sydd â phrofiad blaenorol o weithio o fewn maes gweinyddol ADY, i ymuno â'r tîm ADY, Lles a Chynhwysiant yng Ngheredigion.
Mae’r rôl Cydlynydd Dynodedig (DESCo) yn hanfodol i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cydymffurfio’n llawn â’i ddyletswyddau statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys (Cymru) 2018 (ALNET). Bydd deilydd y swydd yn darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth broffesiynol i deuluoedd, ysgolion ac asiantaethau allanol, gan sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn derbyn cymorth amserol, cydlynol ac o ansawdd uchel.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Yn ogystal â chymorth uniongyrchol, bydd deilydd y swydd yn:
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n ceisio secondiad. Argymhellir gofyn am ganiatâd rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais i sicrhau y gallwch ddychwelyd i'ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch â Angharad Welsby ar Angharad.Welsby@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.