Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.
Therapydd Galwedigaethol (OT)
(Llawn amser 37 awr yr wythnos ddydd Llun-Gwener swydd barhaol). Gellir ystyried oriau gwaith amgen ar gyfer yr ymgeisydd iawn.
GwasanaethTherapi Galwedigaethol Cyngor Sir Ceredigion.
Ydych chi'n angerddol am ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i roi pwrpas i’w bywydau? Ydych chi'n gwerthfawrogi gweithio mewn sefydliad blaengar sy'n canolbwyntio ar les? Os felly, darllenwch ymlaen.
Yn dilyn adolygiad diweddar o'r gwasanaethau Therapi Galwedigaethol o fewn Cyngor Sir Ceredigion, mae strwythur gwasanaeth newydd wedi'i ddatblygu. Mae gwasanaethau cymunedol i oedolion a phlant bellach yn gweithio o dan yr un strwythur rheoli o fewn model llesiant gydol oes Ceredigion.
Er bod y rolau OT sy'n cael eu hysbysebu wedi’u lleoli’n bennaf o fewn y gwasanaeth i oedolion, wrth i'r gwasanaeth aeddfedu, bydd y tîm yn dod yn fwy integredig a bydd cyfleoedd cyffrous i ennill profiad cymunedol pediatrig yn bodoli.
Rydym yn angerddol iawn am y gwasanaeth o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn rydym ni’n ei ddarparu i drigolion Ceredigion, a’r persbectif unigryw a ddaw gyda’r proffesiwn hwn i’r sefydliad ehangach. Credwn fod gan bawb yr hawl i gyrraedd eu potensial llawn ar bob cam yn eu bywyd.
Fel tîm, rydym yn falch o'n diwylliant cefnogol ac yn ceisio rhannu ein cryfderau, ein sgiliau proffesiynol, a'n gwybodaeth eang – yn ein gwasanaeth OT uniongyrchol a chyda'n cydweithwyr yn yr Adran Seicoleg.
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwysedig, gallwch ddisgwyl derbyn goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd ac amser CPD gwarchodedig.
Eich ffocws o fewn y tîm fydd:
Mae rôl OT gymunedol yn amrywiol. Ein nod yw grymuso pobl i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth eu hunain wrth ddefnyddio adnoddau'n deg ac yn gyfrifol, yn unol â'n cyfrifoldebau proffesiynol a deddfwriaethol. Mae ein tîm yn arbenigwyr yn y meysydd:
Fel Therapydd Galwedigaethol cymwys, rhaid cael hyder yn eich sgiliau asesu clinigol; gallu egluro pam a sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Bod yn broffesiynol ac yn hunanymwybodol, gan wybod ymhle mae eich cymwyseddau eich hun yn dechrau a gorffen. Bod yn awyddus i ddysgu a rhannu gwybodaeth. Yn bennaf oll, dylech fod mor angerddol ynghylch arloesi, gwaith tîm a darparu gwasanaeth o ansawdd sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn gweithio fel tîm ac rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad pob aelod o’r tîm.
Os ydych chi'n rhannu ein gwerthoedd, cysylltwch i drafod y cyfle cyffrous hwn, neu gwnewch gais nawr.
Mae'r rolau hyn yn elwa o:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod y cyfle hwn ymhellach, cysylltwch â: Steven Elliott, Rheolwr Tîm, Steven.Elliott@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.