Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio am unigolyn cyfeillgar a brwdfrydig sydd yn awyddus i weithio fel rhan o dim sydd yn darparu profiad gwych i bawb sydd yn ymweld a’n cyfleusterau hamdden.
Fel Derbynnydd, yng Nghanolfan Lles, Llambed byddwch yn gyfrifol am holl waith derbynfa’r ganolfan, delio gyda cwsmeriaid, darparu gwybodaeth, prosesu arian a sicrhau gwasanaeth blaen ty o’r radd flaenaf.
Fel cyngor, rydym yn cychwyn ar daith gyffrous a fydd yn gweld nifer o'n Canolfannau Hamdden yn dod yn Ganolfannau Lles, gyda Canolfan Lles, Llambed y cyntaf i agor ei drysau. Mae'r rol hyn yn gyfle gwych i fod yn rhan o'r daith honno wrth i ni gyfrannu at hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol ein dinasyddion.
Fel Derbynnydd bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gynorthwyo’r rheolwr i ddarparu gwasnaeth effeithiol ac effeithlon, ac o ddydd i ddydd byddwch yn:
Mae’r Cyngor wedi ymrwyo i ddarparu gwasanaeth ddwyeithog i’n cwsmeriaid felly bydd angen lefel dda o gymraeg ar gyfer y swydd yma. Oherwydd ein oriau agor a natur y swydd bydd angen i chi weithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau ar rota.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwyo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rol hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen a’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch a Rhidian Harries ar: rhidian.harries@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.