Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae Canolfan Bwyd Cymru yn chwilio am Technegydd Bwyd (Lleoliad Diwydiannol/Myfyrwyr) ar gontract tymor penodol, fel rhan o’n rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolyn cryf eu cymhelliant i ymuno â'n tîm, gan gefnogi gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ymarferol a gwerthfawr ar draws holl feysydd gweithrediadau bwyd a diod a disgyblaethau technegol.
Byddwch yn ymwneud ag ystod amrywiol o brosiectau cyffrous ac yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cyfleoedd datblygiad personol trwy gydol y lleoliad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn elwa o gael profiad gwerthfawr o weithio mewn amgylchedd gweithgynhyrchu bwyd, wrth gael yr hyfforddiant trosglwyddo gwybodaeth berthnasol a mentora gan staff technegol Canolfan Bwyd Cymru. Rhaid i chi allu gweithio'n annibynnol ac o fewn tîm, gyda dealltwriaeth sylfaenol o brosesau a dulliau cynhyrchu.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: gina.davies@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.