Yr ydym yn chwilio am unigolyn i ymgymryd a’r gwaith o lanhau Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd er mwyn sichrau amgylchedd diogel a glan i’r staff a’r disgyblion.
Llun – Gwener
Yn atebol i’r Brifathrawes am y safonau glanhau a sicrhau y cynhelir lefelau derbyniol o hylendid glanhau.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os am drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgolion Syr John Rhys, Mynach a Pontrhydfendigaid, Mrs Joyce George ar 07813 274539 / 01970 890622 neu drwy e-bost ar georgea59@hwbcymru.net.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.