Ydych chi’n chwilio am gyfle i weithio yn nhrefi bach a chefn gwlad hyfryd Gorllewin Cymru ar gyfer awdurdod lleol sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n darparu cefnogaeth dda i’w staff ynghyd â chyfleodd datblygu gyrfa?
Mae gennym gyfle yng Ngheredigion ar gyfer recriwtio i swydd Gweithiwr Cymdeithasol Cynorthwyol i weithio yn y Tim Gofal wedi ei Gynllunio gydag oedolion hŷn, pobl ag anableddau corfforol ac anawsterau seiciatrig henaint sydd angen cynlluniau gofal a chymorth dan Rhan 3 a 4 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a gyda gofalwyr sydd angen cymorth o.
Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i ddull Arwyddion Diogelwch ac mae wrthi’n trawsnewidio i fodel gydol oed a theulu cyfan fydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau i ddiwallu anghenion ac mae hyn wedi arwain at cyfleodd cyffrous ar gyfer cydweithredu gyda adrannau tu fewn yr awdurdod yn ogystal a’n hasiantaethau partner.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd a rhywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau iaith Gymraeg gofynnol yn cael cefnogaeth i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 flynedd o benodiad.
Ein Cynnig i Chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gwybodaeth ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Ruth Jones: ruth.jones@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.