Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Yn chwilio am swydd sy’n ystyrlon, sy’n rhoi pwyslais ar y cwsmer ac yn llawn amrywiaeth? Dyma’r swydd i chi.
Ynghylch y swydd
Rydym yn chwilio am berson hyderus, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n tîm cyfeillgar i helpu i ddarparu gwasanaeth cofrestru effeithlon sy’n rhoi pwyslais ar y cwsmer.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru priodasau a phartneriaethau sifil i ddechrau cyn mynd ymlaen maes o law i ymgymryd â dyletswyddau eraill gan gynnwys arwain seremonïau a chofrestru genedigaethau a marwolaethau.
Bydd y rôl amrywiol yn rhoi boddhad a byddwch yn gweithio gyda’r cyhoedd ar adegau nodedig yn eu bywydau - mae pob diwrnod yn wahanol.
Amdanoch chi
Rhaid i swyddog cofrestru feddu ar sgiliau rhagorol o ran ymdrin â chwsmeriaid, gweithio’n gywir gan roi sylw i fanylder, a meddu ar sgiliau cyfrifiadurol da. Nid oes rhaid cael profiad blaenorol o weithio mewn gwasanaeth cofrestru oherwydd rhoddir hyfforddiant llawn a pharhaus.
Oherwydd disgwyliadau'r rôl mae'n hanfodol fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu seremonïau mewn lleoliadau amrywiol ledled Ceredigion felly mae’n rhaid iddo/iddi fod â cherbyd ei hun.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod hefyd ar gael i weithio’n rheolaidd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc, ar sail rota yn ddibynnol ar ofynion y gwasanaeth. Rhoddir tâl ychwanegol am yr oriau ychwanegol hyn. Er mwyn hwyluso rhediad y gwasanaeth, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gadarnhau pryd y bydd ar gael oleuaf mis o flaen llaw.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch â Rhiannon Pugh (Cofrestrydd Arolygol) ar Rhiannon.Pugh@ceredigion.gov.uk
Cynhelir y cyfweliadau ar y 20fed o Fai, 2026.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Bydd angen gwiriad DBS ar gyfer y rôl hon. Sylwch nad yw presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle mae pob unigolyn yn cael ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas o'r pwys mwyaf i ni drwy gydol y broses recriwtio.