Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae’r Gwasanaethau Amgylchedd Lleol yn darparu ystod o wasanaethau i gymunedau Ceredigion. Er mwyn cynorthwyo i gyflenwi’r gwasanaethau rheng flaen hyn, rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â’n tîm.
Rydym yn chwilio am unigolyn i roi cymorth gyda’r nos ac ar benwythnosau i’n tîm yn Aberystwyth, Cei Newydd ac Aberaeron ar hyn o bryd.
Mae’r oriau gwaith fel a ganlyn:
Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol drwydded yrru lawn, rhywfaint o brofiad o waith corfforol tebyg sy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored ac sydd am ein helpu ni i gadw Ceredigion yn lân.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Paul Edwards: Paul.Edwards@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.