Rydym yn chwilio am Oruchwylydd Clwb Brecwast er mwyn rhoi’r dechrau gorau i’r diwrnod i’n dysgwyr; yn barod i weini brecwast a goruchwylio disgyblion sydd yn mynychu’r clwb ac i ymgymryd â dyletswyddau perthnasol.
Mae'r swydd hon yn 5 awr yr wythnos, gyda'r oriau wedi'u gwasgaru rhwng 8yb a 9yb bob dydd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Carol Macy ar MacyC@plascrug.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.