Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Lleoliad: Wedi'i leoli yn Depo Glanyrafon, Aberystwyth neuDdepo Penrhos, Croeslan, gyda gweithio hybrid ar gael a hyblygrwydd i weithio ar draws safleoedd yng Ngheredigion. Bydd angen presenoldeb ar safleoedd a rhaid i ddeiliad y swydd gadw at ofynion iechyd a diogelwch gweithio ar y safle.
Mae hwn yn gyfle arweinyddiaeth uwch i lunio sut mae gwasanaethau trafnidiaeth a rheoli rhwydwaith hanfodol yn cael eu darparu ar gyfer cymunedau ledled Ceredigion.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o fewn a thu hwnt i lywodraeth leol sy'n gallu dangos tystiolaeth o brofiad arweinyddiaeth.
Fel Rheolwr Gwasanaeth - Rheolwr Rhwydwaith, byddwch yn arwain portffolio cymhleth a hynod weladwy sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau beunyddiol pobl, sy'n cynnwys:
Mae'n rôl sy'n cyfuno dylanwad strategol, arweinyddiaeth weithredol ac effaith gwasanaeth cyhoeddus. Gan adrodd i'r Rheolwr Corfforaethol – Priffyrdd, Asedau a Seilwaith, byddwch yn gweithredu wrth galon awdurdod lleol sy'n cael ei arwain gan aelodau, gan weithio'n agos gydag aelodau etholedig, uwch gydweithwyr, partneriaid a chontractwyr i ddarparu gwasanaethau diogel, cydymffurfiol, gwydn a gwerth ariannol mewn amgylchedd heriol ac esblygol.
Ynglŷn â'r rôl – beth fyddwch chi'n ei arwain:
Mae hon yn rôl weithredol a strategol uwch, sy'n gofyn am arweinyddiaeth gref, rheolaeth ariannol, gweithio mewn partneriaeth, a'r gallu i addasu ac ymateb i amgylchedd sy'n newid tra'n cynnal darpariaeth gwasanaeth rhagorol.
Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano:
Bydd y rôl hon yn addas i arweinydd sy'n mwynhau gweithredu ar draws strategaeth, gwleidyddiaeth a chyflawni ac sy'n dod â thawelwch, eglurder a hyder i wasanaethau cymhleth.
Gofynion hanfodol
Y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn bwysig i ni. Bydd angen y gallu (neu'r ymrwymiad) arnoch i weithio tuag at:
Darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn.
Dymunol
Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig
Byddwch yn ymuno â chyngor sydd â gwreiddiau cymunedol cryf a blaenoriaethau uchelgeisiol, lle mae gan uwch arweinwyr y lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: phil.jones@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.