Dyddiad Cychwyn: Medi 2026
Gofyniad Iaith: Saesneg, Cymraeg (yn dymunol)
Rydym yn chwilio am athro/athrawes frwdfrydig ac ysbrydoledig i ymuno ag Adran fywiog a llwyddiannus y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Mae’r adran yn weithgar iawn, yn boblogaidd iawn gyda disgyblion, ac yn gosod disgwyliadau uchel. Rydym yn cynnig cyfleoedd niferus i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau ac i staff gyfrannu’n greadigol.
Yr hyn a gynigiwn:
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:
Pecyn Gwybodaeth
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.